Pleidleisiau a Thrafodion - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 10 Ionawr 2024

Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
13679


181(v3)

------

<AI1>

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i Weinidog yr Economi

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 4, 5 a 7 gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dechreuodd yr eitem am 14.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 7 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

</AI3>

<AI4>

3       Cwestiynau Amserol

Dechreuodd yr eitem am 15.35

Atebwyd gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol

Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o sut mae sgandal Horizon Swyddfa'r Post yn parhau i effeithio ar fywydau trigolion yng Nghymru?

Atebwyd gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Sam Rowlands (Gogledd Cymru): A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am Arriva yn newid pob gwasanaeth bws yng Ngogledd Cymru o ganlyniad i'r terfyn cyflymder diofyn 20mya yng Nghymru?

</AI4>

<AI5>

4       Datganiadau 90 Eiliad

Dechreuodd yr eitem am 16.29

Gwnaeth Mike Hedges ddatganiad am - Diwrnod ymwybyddiaeth canserau llai goroesadwy (11 Ionawr).

Gwnaeth Sarah Murphy ddatganiad am - Teyrnged i JPR Williams.

Gwnaeth Sam Rowlands ddatganiad am - Côr Meibion Maelgwn.

</AI5>

<AI6>

5       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol - Amser rhoi diwedd ar dlodi plant: sut y gall Cymru wneud yn well

Dechreuodd yr eitem am 16.35

NDM8446 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: “Amser rhoi diwedd ar dlodi plant: sut y gall Cymru wneud yn well” a osodwyd ar 6 Tachwedd 2023.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Rhagfyr 2023.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI6>

<AI7>

6       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Canlyniadau PISA

Dechreuodd yr eitem am 17.31

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8447 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi canlyniadau Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) 2022, a gyhoeddwyd ar 5 Rhagfyr 2023.

2. Yn gresynu at y ffaith:

a) bod perfformiad Cymru wedi gostwng i'w lefel isaf erioed mewn profion mathemateg, darllen a gwyddoniaeth a gymerwyd gan bobl ifanc 15 oed;

b) mai canlyniadau Cymru oedd yr isaf o holl wledydd y DU, am y pumed tro yn olynol; ac

c) bod canlyniadau Cymru yn is na chyfartaledd yr OECD.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) blaenoriaethu addysg plant drwy gael 5,000 yn fwy o athrawon yn ôl i ystafelloedd dosbarth;

b) sicrhau bod y rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael y cymorth cywir yn gynt, heb unrhyw doriadau i anghenion dysgu ychwanegol yng nghyllideb 2024-25;

c) ailgyflwyno math o brofion safonedig ar draws ysgolion ac awdurdodau lleol i helpu rhieni ac athrawon i fonitro cynnydd dysgwyr yn ystod cyfnodau allweddol a chymharu perfformiad;

d) datblygu rhaglen well ar gyfer dysgwyr mwy abl a thalentog; ac

e) cael gwared ar y consortia addysg rhanbarthol a buddsoddi arbedion a wnaed yng nghyllidebau ysgolion.

Canlyniadau PISA 2022 (Saesneg yn unig)

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

34

48

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod y pandemig wedi effeithio ar sgoriau PISA ledled y byd.

Yn cydnabod bod Cymru wedi gweld gwelliant mewn llythrennedd a rhifedd yng nghanlyniadau PISA 2018, fodd bynnag mae’r cynnydd hwnnw wedi dirywio ers y pandemig.

Yn croesawu:

a)   lansio cynlluniau llythrennedd a rhifedd i godi safonau yn y meysydd allweddol hyn;

b)   bod y cyllid i gefnogi dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf a’i fod wedi’i ddiogelu yn y gyllideb ddrafft;

c)   bod Asesiadau Personol ar-lein yn cael eu defnyddio mewn ysgolion ledled Cymru i gefnogi addysgu a dysgu, ac y bydd data o’r asesiadau yn cael eu cyhoeddi’n flynyddol i olrhain cynnydd; a

d)   sefydlu Tasglu Presenoldeb Cenedlaethol i gefnogi ysgolion i wella cyfraddau presenoldeb.  

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

23

49

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi canlyniadau Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) 2022, a gyhoeddwyd ar 5 Rhagfyr 2023.

2. Yn nodi bod y pandemig wedi effeithio ar sgoriau PISA ledled y byd.

3. Yn cydnabod bod Cymru wedi gweld gwelliant mewn llythrennedd a rhifedd yng nghanlyniadau PISA 2018, fodd bynnag mae’r cynnydd hwnnw wedi dirywio ers y pandemig.

4. Yn croesawu:

a)   lansio cynlluniau llythrennedd a rhifedd i godi safonau yn y meysydd allweddol hyn;

b)   bod y cyllid i gefnogi dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf a’i fod wedi’i ddiogelu yn y gyllideb ddrafft;

c)   bod Asesiadau Personol ar-lein yn cael eu defnyddio mewn ysgolion ledled Cymru i gefnogi addysgu a dysgu, ac y bydd data o’r asesiadau yn cael eu cyhoeddi’n flynyddol i olrhain cynnydd; a

d)   sefydlu Tasglu Presenoldeb Cenedlaethol i gefnogi ysgolion i wella cyfraddau presenoldeb.  

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

24

49

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

</AI7>

<AI8>

7       Dadl Plaid Cymru - Tlodi plant a chyrhaeddiad addysgol

Dechreuodd yr eitem am 18.16

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8445 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod 28 y cant o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi.

2. Yn nodi'r gydberthynas rhwng tlodi plant a'r bwlch cyrhaeddiad addysgol.

3. Yn nodi'r canlyniadau PISA diweddaraf a'r adroddiad cenedlaethol a ddangosodd fod 11 y cant o ddysgwyr yng Nghymru wedi methu pryd o fwyd oherwydd tlodi.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ymestyn y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim i flynyddoedd 7 i 11 ar gyfer yr aelwydydd hynny sy'n derbyn Credyd Cynhwysol, heb uchafswm o ran enillion; a

b) gweithredu targedau statudol yn y Strategaeth Tlodi Plant derfynol i gyfrannu at gau'r bwlch cyrhaeddiad a gwella canlyniadau addysg.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

39

49

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn credu mai addysgu a dysgu o ansawdd uchel yw’r ffactor pwysicaf mewn ysgolion ar gyfer mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad.

Yn croesawu:

a)   gwell ffocws mewn Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon ar yr ystod o ddulliau addysgu a dysgu sydd eu hangen i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar brofiadau a deilliannau dysgwyr.

b)   diogelu yn y gyllideb ddrafft y Grant Datblygu Disgyblion a chanllawiau newydd i gefnogi ysgolion i dargedu’r cyllid hwn yn well.

c)   y gwaith a wneir gan Bencampwyr Cyrhaeddiad Llywodraeth Cymru i rannu eu profiadau o fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad, a’r bwriad i ddatblygu hyn ymhellach.

d)   y rôl y gall Ysgolion Bro ei chwarae i helpu rhieni a theuluoedd i gymryd diddordeb yn addysg y plant, ac i ddatblygu’r amgylchedd dysgu yn y cartref.

e)   rhaglenni fel Hanfodion Ysgol a Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf sy’n darparu cymorth amhrisiadwy i leihau costau byw i deuluoedd.

Yn nodi bod canlyniadau PISA wedi canfod bod addysg yng Nghymru yn decach na chyfartaledd yr OECD a gwledydd eraill y DU, gyda’r bwlch cyrhaeddiad yn llai rhwng dysgwyr mwy difreintiedig a dysgwyr llai difreintiedig.   

Cyllideb Ddrafft 2024 i 2025 Llywodraeth Cymru

Grant Datblygu Disgyblion: canllawiau

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

24

49

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliannau 2, 3, 4 a 5 eu dad-ddethol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM8445 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

1. Yn nodi bod 28 y cant o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi.

2. Yn nodi'r gydberthynas rhwng tlodi plant a'r bwlch cyrhaeddiad addysgol.

3. Yn nodi'r canlyniadau PISA diweddaraf a'r adroddiad cenedlaethol a ddangosodd fod 11 y cant o ddysgwyr yng Nghymru wedi methu pryd o fwyd oherwydd tlodi.

4. Yn credu mai addysgu a dysgu o ansawdd uchel yw’r ffactor pwysicaf mewn ysgolion ar gyfer mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad.

5. Yn croesawu:

a)   gwell ffocws mewn Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon ar yr ystod o ddulliau addysgu a dysgu sydd eu hangen i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar brofiadau a deilliannau dysgwyr.

b)   diogelu yn y gyllideb ddrafft y Grant Datblygu Disgyblion a chanllawiau newydd i gefnogi ysgolion i dargedu’r cyllid hwn yn well.

c)   y gwaith a wneir gan Bencampwyr Cyrhaeddiad Llywodraeth Cymru i rannu eu profiadau o fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad, a’r bwriad i ddatblygu hyn ymhellach.

d)   y rôl y gall Ysgolion Bro ei chwarae i helpu rhieni a theuluoedd i gymryd diddordeb yn addysg y plant, ac i ddatblygu’r amgylchedd dysgu yn y cartref.

e)   rhaglenni fel Hanfodion Ysgol a Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf sy’n darparu cymorth amhrisiadwy i leihau costau byw i deuluoedd.

6. Yn nodi bod canlyniadau PISA wedi canfod bod addysg yng Nghymru yn decach na chyfartaledd yr OECD a gwledydd eraill y DU, gyda’r bwlch cyrhaeddiad yn llai rhwng dysgwyr mwy difreintiedig a dysgwyr llai difreintiedig.   

Cyllideb Ddrafft 2024 i 2025 Llywodraeth Cymru

Grant Datblygu Disgyblion: canllawiau

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

24

49

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

</AI8>

<AI9>

8       Cyfnod Pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 19.11

</AI9>

<AI10>

Crynodeb o Bleidleisiau

</AI10>

<AI11>

9       Dadl Fer

Dechreuodd yr eitem am 19.16

NDM8444 Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd)

Methu cynllunio, cynllunio methiant - pam mae angen aildrefnu cynllunio yng Nghymru

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 19.39

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 16 Ionawr 2024

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>